Sefydlwyd Deintyddfa Glandwr tua 1980 ond fe’i prynwyd gan Dylan Parry-Jones yn 2015. Deintydd lleol a fagwyd yng Nghaernarfon, gyda chysylltiadau agos â’r Llyn. Cafodd Dylan ei gymhwyso yng Nghaerdydd yn 2006 ac fe ddychwelodd i’r gogledd yn 2011. Ers cymhwyso, mae wedi bod yn datblygu ei sgiliau deintyddol, yn enwedig ym maes adferol, ac erbyn hyn mae’n cynnig trawsnewidiadau llwyr i wên yn ogystal â deintyddiaeth gyffredinol. Mae’n credu bod deintyddiaeth foesegol dda, boddhad cleifion, a gweithle hapus yn allweddol.
Oherwydd cynnydd yn y galw, penderfynodd Dylan agor ail feddygfa ddeintyddol a fyddai’n fwy preifat/ac wedi’i chanolbwyntio ar ofal cosmetig, ac felly ym mis Chwefror 2018 agorodd ein cangen ym Mhwllheli.
Er mwyn bod mor hyblyg â phosib gyda’n cleifion, rydym yn cynnig apwyntiadau ar benwythnosau ac gyda’r nos. Rydym hefyd yn cynnig dulliau o gynllunio’ch anghenion deintyddol; Plan4health, gwasanaeth taliadau misol, a chyllid 0% dros 12 mis.
Rydym yn cynnig gwasanaethau deintyddol mwy arbenigol, yn amrywio o sedation i endodontics (llenwadau sianel wraidd). Os ydych yn chwilio am feddygfa gyfeillgar, agos-atoch ac sy’n siarad Cymraeg, sydd yn gallu cynnig ystod eang o ddeintyddiaeth o ansawdd uchel – dewch i ymweld ag un o’n practisiau!
Rydym yn angerddol am bwysigrwydd fflosio fel rhan o’ch trefn iechyd geneuol dyddiol. Gallwch siopa am ystod o frwshys rhyngddannedd ar-lein heddiw gyda TePe Direct. Defnyddiwch ein cod “TEPE2U024” i gael 5% i ffwrdd!
Clywch gan ein cleifion sy’n gwenu
I had such a great experience at this practice. I got Invisalign with Lois, then had my teeth whitened, and Dr. Dylan did some shaping at the end to finish everything off. I’m honestly so glad I wen… Read More
Nearly at the end of my invisalign treatment and could not be happier with the results. Dr lois…genius👌and amazing at what she does, could not be in better hands. From start to finish amazing ser… Read More
Lois and Mika have been amazing from start to finish during my Invisalign journey! They always go above and beyond — answering every question, keeping me at ease, and making each appointment a posit… Read More
Initially came to Glandwr to fix my smile for my wedding. I was so self conscious of my previous smile and knew now was the time to have an upgrade! I am so pleased with the results and care iv receiv… Read More
I had been contemplating having the invisiline treatment for a while and after talking with the amazing Amy I went ahead and started.From the first consultation to finish, what a service. Highly reco… Read More